Arolwg o’r Angen am Dai
Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol yn sefydliad dielw sy'n cael ei reoli gan y gymuned, ac sy'n berchen ar, sy'n datblygu ac sy'n rheoli asedau lleol er lles y gymuned leol. Ei hamcan yw caffael tir ac eiddo a'i ddal mewn ymddiriedolaeth er lles ardal neu gymuned leol ddiffiniedig am byth. Gall wneud hynny at nifer o ddibenion, y mae tai yn un o'r rhain.
Mae'n gweithio trwy wahanu gwerth yr adeilad a gwerth y tir y mae'r adeilad arno. Mae'r gymuned yn parhau i fod yn berchen ar y tir. Gall trigolion gaffael budd ariannol yn yr adeilad; byddant yn talu rhent a fydd yn talu am orbenion megis gwaith trwsio, cynnal a chadw, yswiriant i'r adeilad a chostau gweinyddu, yn ogystal â'r llog ar yr arian a fenthycwyd i adeiladu'r tai.
Bydd arian sy'n weddill yn cronni ar ffurf cynilion a fydd yn cael ei dalu i'r preswylydd pan fydd yn gadael, neu cyn hynny o bosibl. Mewn geiriau eraill, byddant yn cael rhan o unrhyw elw. Mae hyn yn ei wneud yn wahanol i drefniant rhentu confensiynol.
Un agwedd bwysig arall yw cyfranogiad y trigolion a'r gymuned yn y gwaith o ddatblygu a rheoli'r eiddo.
Bydd y data a ddarparir gennych yn y ffurflen hon yn cael ei storio mewn cronfa ddata gyfrifiadurol. Dim ond at ddibenion yr ymddiriedolaeth y defnyddir y data hwn ac ni fydd yn cael ei ddatgelu i drydydd parti.
Deddf Diogelu Data 2000
